Mae dargyfeiriad beicio a “theithio llesol” gyda’r nos yn unig yn eu lle tra bod y llwybr ar waith. Mae hyn yn cynnal yr hyn sy’n llwybr pwysig ar draws canol y ddinas. Fel y bydd ymwelwyr i’r parc yn gwybod, mae’r llwybr cymudwyr dynodedig o’r dwyrain i’r gorllewin fel arfer yn aros ar agor, hyd yn oed ar ôl cloi’r parc, er mwyn darparu llwybr defnyddiol i deithwyr llesol. Rydym yn falch ein bod wedi gallu cynnal y llwybr poblogaidd hwn drwy roi’r dargyfeiriad ar waith. Yn ystod oriau golau dydd, pan fydd y parc ar agor fel arfer, rydym yn cynghori bod y llwybr arferol yn cael ei ddefnyddio er hwylustod i bobl.