Bydd y llwybrau ar draws y llwybr golau’n addas i gadeiriau olwyn a phramiau. Am taw parc cyhoeddus yw Parc Bute, dylech fod yn ymwybodol y gallai’r llawr fod yn anwastad mewn mannau. Bydd toiledau hwylus i bobl anabl a chyfleusterau newid cewynnau ar gael ar y safle hefyd.
Gall gwesteion anabl gael un tocyn gofalwr am ddim. Dewch ag UN o’r dogfennau adnabod canlynol gyda chi i’w dangos wrth gyrraedd i ddilysu’r pas gofalwr am ddim:
- Tystiolaeth o hawl i Lwfans Byw i’r Anabl i blant o dan 16 oed neu DLA/Taliadau Annibynnol Personol (PIP) i bobl rhwng 16-64 oed, naill ai ar ffurf llythyr sy’n datgan bod y budd-dal wedi cael ei ddyfarnu, neu’r llyfr Lwfans ei hun
- Llythyr dyfarnu Lwfans Gweini neu Lwfans Gofalu
- Llyfrau Budd-dal Analluogrwydd, neu lythyr yn dyfarnu Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) i’r derbynnydd
- Bathodyn Glas dilys
- Yn achos nam ar y golwg, cerdyn cofrestru o’r enw BD8 neu Dystysgrif o Nam ar y Golwg (CVI)
- Dogfen gofrestru awdurdod lleol sy’n lleol i’r atyniad o dan sylw
- Cerdyn adnabod cydnabyddedig ar gyfer Ci Cymorth
- Cerdyn Mynediad Credibility
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hygyrchedd, cysylltwch â hello@christmasatbutepark.com