Croeso i Hysbysiad Preifatrwydd Nadolig ym Mharc Bute. Efallai eich bod yn edrych ar hwn trwy ein gwefan neu ein cymhwysiad ffôn symudol (y byddwn gyda’n gilydd yn ei alw’n ‘‘Platfform’’ yn fyr).

Rydym yn ystyried diogelu eich preifatrwydd yn hynod bwysig. Rydym yn rhwym i ac yn defnyddio eich data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016/679 27 Ebrill 2016 (“GDPR”).

Rydym eisiau eich hysbysu cymaint â phosibl, eich parchu a rhoi rheolaeth i chi dros yr hyn sy’n digwydd i’ch data personol a’r hyn yr ydych yn ei rannu â ni.

Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd wedi’i gynllunio i’ch gwneud yn ymwybodol o ba ddata rydym yn ei gasglu a sut rydym yn ei gasglu.

Cymerwch amser i ddarllen trwy ein Hysbysiad Preifatrwydd a Chwcis i ddeall eich hawliau.

1.1 Amdanom ni – Ein manylion cyswllt

Enw: FTF2 Ltd

Cyfeiriad: 19 Lever Street, Manceinion, M1 1AN

E-bost: hello@christmasatbutepark.com

1.2 Pa ddata personol rydym yn ei gasglu a sut?

Ar hyn o bryd, rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth ganlynol:

  • Dynodwyr personol, cysylltiadau (er enghraifft, enw a manylion cyswllt, cyfeiriad, oedran)
  • Manylion bancio
  • Rhif ffôn
  • Data iechyd (dim ond mewn achosion cyfyngedig h.y. os yw hyn yn ofynnol dan y gyfraith)
  • Cwcis
  • Manylion eich rhieni os ydych dan 18 oed

1.3 Y wybodaeth a roddwch i ni

Byddwn yn casglu eich data personol yn uniongyrchol oddi wrthych pan fyddwch yn:

  • creu a gwneud archeb;
  • cofrestru am gyfrif neu fewngofnodi i’ch cyfrif;
  • tanysgrifio i’n cylchlythyrau neu restrau postio;
  • tanysgrifio i restr aros am ddigwyddiad;  
  • cymryd rhan mewn cystadleuaeth, hyrwyddiad neu arolwg;
  • anfon cais trwy ebost, ffôn neu arlein i’n tîm gwasanaeth cwsmer neu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol; ac
  • ymweld â’n gwefannau ac apiau (gweld rhagor yn ein Hysbysiad Cwci)

1.4 Gwybodaeth arall a gasglwn amdanoch a gwybodaeth a gawn o ffynonellau trydydd parti

Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o’r ffynonellau canlynol:

  • O’ch cyfrif cyfryngau cymdeithasol pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer digwyddiad i’n platfform drwy fewngofnodi drwyddo;
  • Gan ein hasiantau tocynnau a darparwyr gwasanaeth dibynadwy i ddarparu’r nwyddau a’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt;
  • Gan wyliau a digwyddiadau eraill yn ein Grŵp Adloniant Superstruct os ydych wedi cytuno eich bod am glywed mwy am ein digwyddiadau;
  • Gan drydydd partïon eraill y tu allan i’n Grŵp lle rydych wedi cytuno iddynt rannu eich gwybodaeth â ni at ddibenion marchnata;
  • Asiantaethau’r llywodraeth, treth neu orfodi’r gyfraith.

2.1 Ar gyfer beth rydym yn defnyddio eich data?

  • Dibenion Gwasanaeth a Gweithredol:
  • I’ch darparu gyda thocyn digwyddiad neu unrhyw nwyddau, gwasanaethau a gwybodaeth arall yr ydych wedi gofyn amdanynt gennym ni 
  • I reoli eich mynediad i’n digwyddiadau, gan gynnwys dilysu oedran ac adnabod;
  • I ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid a chefnogaeth, delio ag ymholiadau neu roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau i’n digwyddiadau, ein Platfform neu wasanaethau eraill;
  • I wella a diweddaru ein Platfform a gwneud yn siŵr bod cynnwys o’n Platfform yn cael ei gyflwyno i chi yn y modd mwyaf effeithiol a gorau posibl
  • Hyrwyddiadau trydydd parti:

Byddwn yn rhannu eich data personol gyda thrydydd partïon at eu dibenion marchnata a hyrwyddo eu hunain dim ond ar ôl i chi roi eich caniatâd i ni. Os byddwch yn optio i mewn i unrhyw gyfathrebiadau trydydd parti, gallwch optio allan ar unrhyw adeg drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn y cyfathrebiadau trydydd parti a dderbyniwyd.

  • I amddiffyn eich buddiannau hanfodol

Os ydych chi’n teimlo’n sâl yn ystod y digwyddiad ac yn ymweld â’n pabell cymorth cyntaf, efallai y bydd angen i ni gasglu rhywfaint o ddata iechyd.

  • Cystadlaethau:

Os ydych wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu raffl yr ydym wedi’i threfnu, byddwn yn defnyddio’r data personol yr ydych wedi’i ddarparu er mwyn cysylltu â chi i roi gwybod am bwy sydd wedi ennill y gystadleuaeth neu raffl yr ydych wedi cymryd rhan ynddi ac felly caniatáu i ni gyflawni’r contract ar gyfer y wobr ac yn ôl yr angen ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon i ganiatáu i ni annog galw cwsmeriaid a datblygu ein busnes.

  • Dibenion Marchnata Uniongyrchol (trwy ebost/ffôn)
  • Dibenion Cyfreithiol:

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i’n galluogi i orfodi ein hawliau cyfreithiol, a/neu i ddiogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch ein gweithwyr a/neu drydydd partïon eraill. Er mwyn sicrhau eich iechyd a diogelwch yn ystod y digwyddiad byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth iechyd neu symudedd a roddwch i ni i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.

2.2 Sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth bersonol

Dim ond pan fydd y gyfraith yn ei chaniatáu y byddwn yn defnyddio eich data personol. O dan DPA 2018 a’r GDPR, y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(a) Eich caniatâd h.y. ar gyfer marchnata gan drydydd parti. Gallwch dynnu eich caniatâd unrhyw bryd drwy gysylltu â ni [gweler mwy am eich hawl i dynnu yn adran 6];

(b) Mae gennym rwymedigaeth gytundebol (h.y. i archebu a danfon eich tocynnau yn llwyddiannus);

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol (h.y. i ganfod twyll, neu ddibenion treth);

(ch) Mae ei angen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus;

(d) Mae gennym fuddiant cyfreithlon (h.y. ar gyfer marchnata uniongyrchol pan fyddwch wedi prynu tocynnau) ac nid yw eich buddiannau na’ch hawliau sylfaenol yn drech na’r buddiannau hynny. 

3. Gyda phwy fydd eich data yn cael ei rannu?

Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon gyda:

  • thrydydd parti penodol yr ydym yn gweithio gyda nhw, fel ein bod yn gallu cynnal y digwyddiadau yr ydych yn mwynhau ac yn dewis mynychu. Er enghraifft, pan fyddwch yn cofrestru i fynychu digwyddiad rydym yn ei gynnal, efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth ag is-gontractwyr neu ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti sy’n ein helpu i gynnal ein digwyddiadau (fel staff y lleoliad neu staff diogelwch);
  • pan fo’n ofynnol gan y darparwyr teithio (fel trefnydd y digwyddiad, hyrwyddwyr, gwestai, cwmni trafnidiaeth) er mwyn cadarnhau eich archeb ac i gyflawni eu rhan nhw o’ch contract, efallai y bydd eich data personol yn cael ei rannu gyda nhw;
  • efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich data gyda thrydydd parti sy’n darparu gwasanaethau i ni mewn cysylltiad â gwneud eich archeb megis darparwyr talu a thocynnau;
  • gwyliau a threfnwyr digwyddiadau eraill o fewn ein Grŵp Adloniant Superstruct os ydych wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny;
  • unrhyw drydydd parti arall tu hwnt i’n Grŵp yr ydych wedi rhoi eich caniatâd i rannu eich gwybodaeth ag ef at ddibenion marchnata;
  • unrhyw drydydd parti arall a sefydliad llywodraethol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a gorfodi ein hawliau cyfreithiol (h.y. rhwymedigaethau treth).

Cyn rhannu unrhyw ran o’ch data personol gyda darparwyr allanol, rydym yn gofyn i’n darparwyr lofnodi cytundeb yn cadarnhau y bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel.

4. Sut rydym yn diogelu eich data personol?

Rydym yn cymryd pob mesur technegol a threfniadol rhesymol a phriodol i amddiffyn diogelwch eich gwybodaeth bersonol trwy gydol ein busnes. Er enghraifft, mae mesurau diogelu technegol yn cynnwys mynediad cyfyngol, amgryptio, meddalwedd gwrthfeirws, profi a gwerthuso rheolaidd.

Rhag ofn y byddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i wlad sydd y tu allan i’r DU neu’r AEE rydym wedi rhoi cytundebau neu fesurau eraill ar waith gydag unrhyw un sy’n derbyn eich gwybodaeth i sicrhau y bydd eich data personol yn cael eu diogelu’n gyfartal.

5. Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data personol?

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar-lein trwy EmailOctopus.

Rydym yn cadw data e-bost am gyhyd ag y bo angen at y diben y gwnaethom ei gasglu. Yna byddwn yn cael gwared ar eich gwybodaeth trwy dynnu’r holl ffeiliau a chopïau wrth gefn o’n storfa cwmwl.

6. Beth yw eich hawliau?

Nid yw’n ofynnol i chi dalu unrhyw beth am arfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb cyn y gallwch gwyno i’r Awdurdod Goruchwylio perthnasol.

O dan gyfraith diogelu data, gallwch arfer yr hawliau canlynol:

Eich hawl i dynnu caniatâd – Gallwch dynnu eich caniatâd ar unrhyw adeg benodol drwy gysylltu â’n DPO.

Eich hawl i fynediad – Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol. 

Eich hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol y credwch ei bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth y credwch ei bod yn anghyflawn. 

Eich hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau h.y. os nad yw eich data personol yn angenrheidiol mwyach at y diben y cawsant eu casglu ar eu cyfer neu os byddwch yn tynnu eich caniatâd. 

Eich hawl i wahardd prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau h.y. os ydych yn meddwl bod y wybodaeth rydym yn ei phrosesu yn anghywir neu’n anghyfreithlon.

Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol dim ond os ydym yn prosesu’r wybodaeth berthnasol ar sail cyfreithlon neu les y cyhoedd.

Eich hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni yn uniongyrchol i sefydliad arall, neu i chi, os byddwn yn prosesu’r wybodaeth berthnasol ar sail caniatâd neu gontract.

Eich hawl i gyflwyno cwyn – Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwylio os nad yw ein hymateb yn bodloni eich cais.

Ar gyfer y DU yr Awdurdod Goruchwylio yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow

Cheshire SK9 5AF

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk 

Os ydych chi wedi’ch lleoli neu os yw’r mater yr hoffech chi gwyno amdano wedi digwydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), cliciwch yma am restr o awdurdodau diogelu data lleol yng ngwledydd yr AEE.

7. Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni ar hello@christmasatbutepark.com os hoffech wneud cais neu gwyn, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ar sut rydym yn defnyddio eich data personol.

8. Sut ydym yn cadw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gyfredol?

Byddwn yn diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn i adlewyrchu newidiadau yn ein cynnyrch a’n gwasanaethau. Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 11/10/22. Os bydd yr hysbysiad hwn yn newid mewn unrhyw ffordd sylfaenol, bydd hysbysiad yn cael ei arddangos am 30 diwrnod. Rydym yn argymell gwirio’r dudalen hon ar ein platfform o bryd i’w gilydd.