
DOD YMA
Mae’n bwysig cofio mai’r unig ffordd o fynd i mewn i Nadolig ym Mharc Bute yw drwy fynedfa Castle Mews sy’n agor i Heol y Gogledd, ac sydd yn union i’r gogledd o Glwb Tenis Lawnt Caerdydd ac yn union i’r de o Adeilad Anthony Hopkins, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ni cheir mynediad drwy leoliadau eraill e.e. West Lodge neu fynedfa Gerddi Sophia.
Y cod post agosaf at y digwyddiad yw: CF10 3ER
Gellir dod o hyd i’r lleoliad ‘What 3 Words’ yma. Sylwer : nid oes modd parcio ar y safle ac amser olaf ar gyfer mynediad yw 20:30pm.
CARDDED
Mae Parc Bute yng nghanol y Ddinas, ychydig o waith cerdded o’r prif strydoedd a’r ganolfan ddinesig. Ewch i gyfeiriad Heol y Gogledd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer prif fynedfa’r digwyddiad.
CAR
Ni ellir parcio ar y safle ym Mharc Bute, ond ceir amrywiaeth o feysydd parcio gerllaw.
Mae cyfleusterau parcio talu ac arddangos ar gael gerllaw ar Heol y Gogledd (CF10 3EA), Heol y Coleg, Rhodfa Brenin Edward VII a Rhodfa’r Amgueddfa. Parciwch yn ofalus ac yn synhwyrol mewn parthau wedi’u marcio yn unig. Byddem yn annog cwsmeriaid i beidio â pharcio ym maes parcio Talu ac Arddangos Castle Mews gan fod hwn yn faes parcio bychan iawn a gall ddod yn orlawn.
Lawrlwythwch ap Parcio Caerdydd i’ch helpu i ddod o hyd i le parcio yng Nghaerdydd gan ddefnyddio gwybodaeth fyw o’r system synhwyro ‘Smart Parking’ sydd wedi cael ei gosod yn y meysydd parcio drwy’r ddinas. Gellir dod o hyd i ddolenni i lawrlwytho ap Parcio Caerdydd a rhagor o fanylion yma.
Neu gallwch fynd i Cardiff.gov i gael rhagor o fanylion am barcio ger Parc Bute.
BWS
Ceir nifer o arosfannau bws ar hyd Stryd y Castell i’r de, ac ar hyd Heol y Gogledd i’r dwyrain. Ewch i wefan Bws Caerdydd i gael gwybodaeth ac amseroedd.
TRAIN
TMae mynedfa’r digwyddiad 8 munud o waith cerdded o orsaf Cathays (0.5 milltir), a 15 munud o waith cerdded o’r Orsaf Ganolog a gorsaf Stryd y Frenhines (ychydig llai na 1 filltir).