PENTREF Y NADOLIG
✨ Bwyd Blasus ym Mhentref y Nadolig ✨
Mae bwyd yn bwysig iawn i ni yn Nadolig ym Mharc Bute.
Ym Mhentref y Nadolig, rydyn ni wedi cael gwared ar bratwurst diflas, byrgyrs sych a sglodion llipa. Mae ein holl fwyd stryd o ansawdd arbennig, yn ffres ac yn flasus iawn.
Byddwn yn cyhoeddi ein masnachwyr 2024 dros y misoedd nesaf!
Yn 2022 a 2023, roedd y masnachwyr canlynol:
- The Gourmet Griddle – Bratwurst Almaeneg wedi’i goginio dros dân gydag amrywiaeth o dopinau Nadoligaidd. Masnachwr anhygoel, ni fydd y selsig blasus hyn yn siomi. Hefyd, roedd cwn poeth i blant a hogzillas a sglodion!
- Keralan Karavan – Yn ôl oherwydd galw mawr amdanynt! Bydd masnachwyr o Dde India, Keralan Karavan, yn gweini blychau cyri, rholiau masala, sglodion masala powdwr gwn a sglodion caws (poblogaidd gyda’r plant!). Mae’r bwydydd blasus hyn wedi ennill gwobrau Bwyd Stryd Cymru a Phrydain a siaradodd y prif gogydd gweithredol Krish ar BBC Radio Wales yn ddiweddar.
- Smokin Griddle – Bydd arwyr lleol Caerdydd Smokin Griddle yn dod â’u darnau gorau o gig eidion ar gyfer byrgyrs blasus, wedi’u sawsu’n arbenigol gyda thamaid cyw iâr barbeciw ar yr ochr.
- Yorkshire Pudding Wraps – fyddai’r Nadolig ddim yr un peth heb bwdin Efrog! Mynnwch bwdin Efrog wedi’i stwffio â’ch dewis o dwrci, porc neu ddewis llysieuol blasus.
- Meating Point – Mae Meating Point, un arall o deulu brenhinol bwyd stryd Caerdydd, yn gweini clasuron Groegaidd o souvlaki i kalamaki i halloumi ffrio. Ffurfiwch giw!
- Scorchini’s Mobile Pizzeria – Mae’r lluniau o’r pitsas hyn yn siarad drostynt eu hunain! Mae eu topinau napolitan blasus yn amrywio o selsig Cymreig a winwns coch i bupuri sbeislyd gydag ychydig o droeon Nadoligaidd wrth gefn!
Oeddech chi’n meddwl ein bod ni wedi anghofio pwdin? Eleni, mae dau bwdin blasus i ddewis ohonynt! Un ar gyfer y digwyddiad ac un i fynd adref gyda chi.
- Churros Hermanos – Nefoedd blasus, siocledaidd go iawn. Mae eu churros a’u saws siocled i farw drosto ac yn hollol fegan, ni fydd rhaid i unrhyw un wybod.
- Chock Shop – Mae’r brownis hyn yn prysur ddod y brownis mwyaf poblogaidd o gwmpas! Gyda thopinau newydd yn dod allan o’u clustiau, mae’n anodd ddweud na i’w bocs o 6. Mae blasau’n amrywio o siocled gwyn a mafon i siocled di-ri. Llawn pitsa? Peidiwch â phoeni, gallwch brynu bocs i fynd adref gyda chi!
Ac yn olaf, coffi!
- Bydd y masnachwyr coffi Handlebar Barista a Bibby’s Beans ar hyd y llwybr ac yn yr ardal bwyd a diod olaf yn gweini amrywiaeth o goffi ffres a diodydd poeth arbenigol.
Mae pob masnachwr bwyd a diod yn derbyn taliadau cerdyn yn unig, mae’r digwyddiad yn gwbl ddi-arian.